Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 22 Mehefin 2022
Amser:
11.02 -
12.43
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12863
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Sarah Govier, Llywodraeth Cymru Peter Ryland, Llywodraeth Cymru Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Avalon Broadway (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (10.30 – 11.00)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod hybrid y Pwyllgor Cyllid.
2 Papur(au) i'w nodi
Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Amserlen y Gyllideb - 31 Mai 2022
2.2 PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cynllun Gwella’r Gyllideb - 1 Mehefin 2022
2.3 PTN 3 - Llythyr gan Gomisiwn y Senedd: Goblygiadau ariannol y pandemig COVID-19 - y sefyllfa ddiweddaraf fel ar 31 Mawrth 2022 - 13 Mehefin 2022
2.4 PTN 4 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Pwyllgor Sefydlog Cyllid Rhyngweinidogol (F:ISC) - 14 Mehefin 2022
2.5 PTN 5 - Llythyr gan y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) – Asesiad Effaith Rheoleiddiol Diwygiedig - 14 Mehefin 2022
3 Trefniadau ariannu ar ôl yr UE: Sesiwn dystiolaeth 3
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi; Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd; Sarah Govier, Pennaeth Cysylltiadau Rhynglywodraethol; Peter Ryland, Prif Weithredwr, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Morol ar ymchwiliad y Pwyllgor i drefniadau ariannu Ôl-UE.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.
Derbyniwyd y cynnig.
5 Trefniadau ariannu ar ôl yr UE: Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU.